Hanes

Mae cymuned Trewalchmai wedi ei lleoli oddeutu 5 milltir o dref Llangefni  ar Ynys Môn.

Trewalchmai yw enw priodol y plwyf. Mae cysylltiad rhwng yr enw a Gwalchmai ap Meilyr (1130-1180), un o’r Gogynfeirdd cynharaf. Rhoddwyd y dreflan a’i thir i’r bardd am ei wasanaeth i’r Tywysog Owain Gwynedd.Gwalchmai Uchaf oedd y pentref gwreiddiol, gyda rhan fwyaf o’r boblogaeth yn byw yn agos i leoliad  Eglwys y Plwyf.

TollHouse

Pan adeiladwyd y lon bost newydd o Lundain i Gaergybi,  codwyd Gwalchmai  Isaf yn gyflym iawn ger yr A5 newydd gan Thomas Telford. Adeiladwyd y Tyrpeg  tua 1820 a’r gost i drol  a cheffyl  fynd trwyddo oedd tair ceiniog. Diddymwyd y doll yn 1895 ac fe gollodd yr adeilad ei swyddogaeth.

 

 

Memorial Clock

Adeiladwyd y cloc yn 1926 gan saer maen o’r enw John Griffiths o Langefni,  i goffau’r bechgyn a gollwyd mewn dau ryfel byd. Aberthwyd cymaint a 30 o fechgyn yr ardal yn y Rhyfel Mawr ac wedyn bu farw 9 yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r gofeb yn un o’r rhai mwyaf gogoneddus  mewn pentref, ar yr Ynys.

Eglwys Morhaiarn Sant yn sicr yw’r adeilad hynaf yn y plwyf. Ni ellir rhoi dyddiad pendant arni ond adeiladwyd rhan ohoni  yn  y bymthegfed ganrif ac mae’r sylfeini mor gynar a’r ddeuddegfed ganrif. Mae Cor a Chanol yr Eglwys wedi eu dyddio yn ben dant i’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

gwalchmai church and windmill 1885

Agorwyd Capel Moriah (Annibynnwyr) ar Sul a Llun y Pasg, 1847. Costiodd y swm o £120 i’w hadeiladu. Adeiladwyd Capel newydd Moriah yn 1902 ac y mae yn sefyll fwy neu lai draws y ffordd  i’r hen gapel. Sefydlwyd capel   Jerusalem (M C) yn 1780, ail adeladwyd yn 1849 ac atgyfeiriwyd yn 1925. Adeiladwyd Eglwys  Tabernacl  y Bedyddwyr yn 1890, erbyn heddiw mae’n ganolfan i’r Henoed yn y pentref.

ChapelsRoedd melin wynt yn gweithio ac yn cynhyrchu ŷd hyd at 1927, pan faluriwyd ei hesgyll mewn  storm fawr. Bu’r felin yn gweithio’n  effeithiol gyda pheiriant olew am nifer o flynyddoedd wedyn.

windmill

Mae nifer o adeiladau hen iawn yn y pentref:

Ysgubor Esgob – Wedi ei nodi mewn dogfen yn 1306 fel  eiddo  Esgob Bangor, ac mewn dogfen yn 1700 fel eiddo i Stad Penrhos.

Spite Inn – Mae yr enw yn tarddu o’r hen air Rhufeinig “Hospitium” ac yn arwydd o fodolaeth gwesty o’r Canol Oesoedd.

Hendref – Mae ynddo garreg wedi ei naddu gyda’r llythrenau a’r dyddiad OH 1675. Mae’r un llythrennau wedi eu naddu ar waelod ffenestr  Eglwys y Plwyf gyda’r flwyddyn  1674.
watermill1907s

Melin Ddwr Afon Ddrydwy (Afon Felin i drigolion lleol) – Wedi ei hadeiladu yn nechrau’r  bedwaredd ganrif ar bymtheg . Roedd yn cynhyrchu trydan i’r pentref hyd at 1946.

Yr ysgol gyntaf yn y pentref oedd yr Ysgol Genedlaethol a agorwyd yn 1856, ac  yn cael ei rheoli gan Eglwys Loegr. Roedd  43 o blant yn mynychu’n rheolaidd. Ymhen misoedd, agorwyd ysgol Brydeinig yng Ngwalchmai Uchaf i gynnig cystadleuaeth. Erbyn hyn, enw yr ysgol yw Ysgol y Ffridd gyda  chynhwysedd  i  96 o blant.

then&now