Mae cymuned Trewalchmai wedi ei lleoli oddeutu 5 milltir o dref Llangefni ar Ynys Môn.
Trewalchmai yw enw priodol y plwyf. Mae cysylltiad rhwng yr enw a Gwalchmai ap Meilyr (1130-1180), un o’r Gogynfeirdd cynharaf. Rhoddwyd y dreflan a’i thir i’r bardd am ei wasanaeth i’r Tywysog Owain Gwynedd.Gwalchmai Uchaf oedd y pentref gwreiddiol, gyda rhan fwyaf o’r boblogaeth yn byw yn agos i leoliad Eglwys y Plwyf.
Pan adeiladwyd y lon bost newydd o Lundain i Gaergybi, codwyd Gwalchmai Isaf yn gyflym iawn ger yr A5 newydd gan Thomas Telford. Adeiladwyd y Tyrpeg tua 1820 a’r gost i drol a cheffyl fynd trwyddo oedd tair ceiniog. Diddymwyd y doll yn 1895 ac fe gollodd yr adeilad ei swyddogaeth.
Adeiladwyd y cloc yn 1926 gan saer maen o’r enw John Griffiths o Langefni, i goffau’r bechgyn a gollwyd mewn dau ryfel byd. Aberthwyd cymaint a 30 o fechgyn yr ardal yn y Rhyfel Mawr ac wedyn bu farw 9 yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r gofeb yn un o’r rhai mwyaf gogoneddus mewn pentref, ar yr Ynys.
Eglwys Morhaiarn Sant yn sicr yw’r adeilad hynaf yn y plwyf. Ni ellir rhoi dyddiad pendant arni ond adeiladwyd rhan ohoni yn y bymthegfed ganrif ac mae’r sylfeini mor gynar a’r ddeuddegfed ganrif. Mae Cor a Chanol yr Eglwys wedi eu dyddio yn ben dant i’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Agorwyd Capel Moriah (Annibynnwyr) ar Sul a Llun y Pasg, 1847. Costiodd y swm o £120 i’w hadeiladu. Adeiladwyd Capel newydd Moriah yn 1902 ac y mae yn sefyll fwy neu lai draws y ffordd i’r hen gapel. Sefydlwyd capel Jerusalem (M C) yn 1780, ail adeladwyd yn 1849 ac atgyfeiriwyd yn 1925. Adeiladwyd Eglwys Tabernacl y Bedyddwyr yn 1890, erbyn heddiw mae’n ganolfan i’r Henoed yn y pentref.
Roedd melin wynt yn gweithio ac yn cynhyrchu ŷd hyd at 1927, pan faluriwyd ei hesgyll mewn storm fawr. Bu’r felin yn gweithio’n effeithiol gyda pheiriant olew am nifer o flynyddoedd wedyn.
Mae nifer o adeiladau hen iawn yn y pentref:
Ysgubor Esgob – Wedi ei nodi mewn dogfen yn 1306 fel eiddo Esgob Bangor, ac mewn dogfen yn 1700 fel eiddo i Stad Penrhos.
Spite Inn – Mae yr enw yn tarddu o’r hen air Rhufeinig “Hospitium” ac yn arwydd o fodolaeth gwesty o’r Canol Oesoedd.
Hendref – Mae ynddo garreg wedi ei naddu gyda’r llythrenau a’r dyddiad OH 1675. Mae’r un llythrennau wedi eu naddu ar waelod ffenestr Eglwys y Plwyf gyda’r flwyddyn 1674.
Melin Ddwr Afon Ddrydwy (Afon Felin i drigolion lleol) – Wedi ei hadeiladu yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg . Roedd yn cynhyrchu trydan i’r pentref hyd at 1946.
Yr ysgol gyntaf yn y pentref oedd yr Ysgol Genedlaethol a agorwyd yn 1856, ac yn cael ei rheoli gan Eglwys Loegr. Roedd 43 o blant yn mynychu’n rheolaidd. Ymhen misoedd, agorwyd ysgol Brydeinig yng Ngwalchmai Uchaf i gynnig cystadleuaeth. Erbyn hyn, enw yr ysgol yw Ysgol y Ffridd gyda chynhwysedd i 96 o blant.